Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(148)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3 Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) 

 

Gweld y cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru (60 munud) 

 

NDM5295 David Melding (Canol De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI4>

<AI5>

5 Cynnig i gymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud) 

 

NDM5297 Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:

 

Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2013.

 

Dogfennau ategol:

Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

</AI5>

<AI6>

6 Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

 

NDM5298 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi gyda phryder bod 48.9% o ddisgyblion Cymru yn gadael yr ysgol heb 5 TGAU A*-C gan gynnwys Cymraeg/Saesneg a mathemateg.

 

2. Yn nodi gyda phryder bod y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a mwy breintiedig yn tyfu drwy'r cyfnodau allweddol, gan gyrraedd 33% yng Nghyfnod Allweddol 4.

 

3. Yn credu y dylid ailwerthuso polisïau i fynd i'r afael â lleoedd dros ben i gynorthwyo safonau uchel fel blaenoriaeth.

 

4. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod disgyblion yn gadael yr ysgol gyda chymwysterau perthnasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu sefydlu Cymwysterau Cymru yn sefydliad annibynnol i reoleiddio cymwysterau yn y lle cyntaf.

 

5. Yn cydnabod pwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndir difreintiedig a disgyblion o gefndir mwy breintiedig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddyrannu i bolisïau sy'n mynd i'r afael â hyn.

 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ei chynigion cynhwysfawr i weithredu'r argymhellion yn adroddiad Hill.

 

7. Yn croesawu cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a chael gwaith. 

 

Gellir gweld Adroddiad Hill drwy'r linc a ganlyn:

 

http://cymru.gov.uk/docs/dcells/consultation/130618-delivery-of-education-report-cy.pdf

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt un:

 

‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn mabwysiadu rhaglen monitro disgyblion unigol, i fesur cynnydd disgyblion a chefnogi ysgolion i dargedu ymdrechion at y disgyblion hynny nad ydynt yn cyflawni eu potensial yn llawn.’

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn nodi gyda phryder y diffyg cysondeb rhwng Ysgolion ac Awdurdodau Addysg Lleol ar wella a rheoli’r broses bontio rhwng ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn gadarnhaol.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

 

‘, ac i gyhoeddi strategaeth gyfathrebu i hyrwyddo cymwysterau sy’n unigryw i Gymru ymysg darpar gyflogwyr a sefydliadau addysg.’

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 6 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu cytundeb Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gyda Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Grant Amddifadedd Disgyblion, sydd wedi rhoi £32.4 miliwn o nawdd i ysgolion yn 2012-13 a £36.3 miliwn yn 2013-14, i helpu i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad isel, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y bydd cyllid ar gael yn y dyfodol.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 7 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) monitro’r gwaith o greu’r prentisiaethau ychwanegol hyn; a

 

b) sicrhau bod y sgiliau a geir ar y prentisiaethau hyn yn cyfateb i anghenion y farchnad waith.

</AI6>

<AI7>

7 Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (60 munud) 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1. Y Panel

34, 63, 16, 64, 17, 18, 65, 66, 67, 27, 28, 68, 29, 32, 33, 69

 

2. Gorchmynion cyflogau amaethyddol

4, 5, 19, 6, 50, 7, 20, 8, 9, 46, 10, 21, 22, 2, 1, 11A, 11, 12, 23, 13, 15

 

3. Gorfodi a throseddau

51, 52, 53, 54, 35, 57, 30

 

4. Yr hawl i wyliau a gorfodi’r hawl hwnnw

47, 48, 56, 49

 

5. Gwybodaeth a chofnodion

58, 59, 60, 36

 

6. Adolugu’r Ddeddf a’i chyfnod para

37, 38, 39, 40, 24, 41, 42, 43

 

7. Gorchmynion a Rheoliadau

3, 25, 31, 26, 14

 

8. Diffiniadau o amaethyddiaeth a gweithiwr amaethyddol

44, 45, 61

 

9. Cyfyngiadau ar y Panel a Gweinidogion Cymru

62

 

Dogfennau ategol:

Bil Sector Amaethyddol (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli

Grwpio Gwelliannau

</AI7>

<AI8>

8 Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Sector Amaethyddol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47 (5 munud) 

 

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

 

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Sector Amaethyddol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47

</AI8>

<AI9>

Cyfnod Pleidleisio

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 24 Medi 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>